CYMRAEG [GALÉS]

MANIFFESTO

Tradución: Emyr Gruffydd

CYFLWYNIAD

Yr iaith Alisieg yw elfen mwyaf gwerthfawr treftadaeth pobl Galisia. Dyma sy’n llunio ein hunaniaeth fel Galisiaid, a sy’n ein dynodi lle i ni yn y byd.

CEFNDIR

Fel Galisiaid, rydym yn falch fod gennym heniaith sydd iddi hanes cyfoethog. Oherwydd amgylchiadau gwleidyddol, y mae’r iaith wedi gorfod dioddef erledigaeth drom ers degawdau cyntaf yr unfed ganrif ar bymtheg. Fodd bynnag, mae’r ffaith bod gwerinwyr Galisia wedi parhau i siarad yr iaith yn ddi-dor dros nifer o genhedlaethau a hefyd ei bod wedi cael ei ddefnyddio gan yr elit academaidd ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi diogelu’r nodwedd hollbwysig hon o hunaniaeth Galisia, a’r sylfaen hanfodol hon o’n diwylliant. Mae eu hymdrech gyfunol wedi sicrhau bod Galisia heddiw yn genedl hanesyddol sydd yn elwa o hunanreolaeth wleidyddol. Mae llywodraethau olynol yng Ngalisia wedi adeiladu’r sylfeini ar gyfer adfywiad cymdeithasol i’r iaith, yn enwedig ym meysydd addysg, gweinyddiaeth, a chyfryngau newyddion y sector gyhoeddus.

CYFLWYNIAD

Cafodd ProLingua ei sefydlo gan bobl o bob proffesiwn oedd yn berchen ar safbwyntiau ideolegol amrywiol, a’i phrif amcanion yw i sefydlu’r iaith Alisieg fel iaith gyntaf Galisia (a’i hardaloedd cyfagos) ac i sicrhau statws swyddogol gwirioneddol i’r Alisieg, sy’n cynnwys presenoldeb normaleiddiedig mewn meysydd lle mae’r iaith yn dal i fod yn anweladwy, megis masnach, y gyfraith, a gwasanaethau cyhoeddus a phreifat eraill, yn enwedig y cyfryngau. Rydym felly yn datgan cynnwys cyfan y Lei de Normalización Lingüística 1983 fel prif amcanion ProLingua, yn ogystal â’r Plan Xeral de Normalización da Lingua Galega 2004, a gafodd eu cefnogi’n unfrydol gan Senedd Galisia. Gan ein bod yn byw mewn gwladwriaeth sy’n cael ei rheoli gan y gyfraith, rydym ni, fel dinasyddion, yn mynnu bod y cyfreithiau presennol sy’n ymwneud â pholisi iaith yn cael eu parchu a’u cadw. Rydym hefyd yn mynnu nad oes camau cyfreithiol yn cael eu cymryd i leihau ar hawliau pobl Galisia i ddefnyddio ac i ddysgu’r Alisieg ac i’w ystyried fel sylfaen i’w hunaniaeth fel Galisiaid.

DULL GWEITHREDU

-Unig ofyniad aelodaeth ProLingua yw bod ei haelodau yn mynd ati i amddiffyn yr iaith Alisieg ac i hyrwyddo’i defnydd ym mhob agwedd o fywyd, boed yn gyhoeddus neu’n breifat.
-Gan bod yr Alisieg yn rhan o dreftadaeth pobl Galisia, gwrthodwn unhryw gynnig i’w chysylltu ag unhryw gorff nac ideoleg penodol. Mae ProLingua felly yn ddosbarthiad di-duedd ac anwleidyddol.
-Mae aelodaeth o ProLingua yn ymrwymiad personol, sy’n golygu nad oes cynrychiolaeth lawn o unhryw gorff na chymdeithas yn y dosbarthiad hwn.
-Mae ProLingua yn hyrwyddo pob gweithgaredd sy’n cyfrannu at gyflawniad ei hamcanion, ac ni fydd ProLingua yn cymryd rhan mewn unhryw weithgarwch ar wahan i’r rhai yma, er bod yr aelodau yn rhydd i wneud hynny yn unigol.
-Ni ddylid cynnwys logo ProLingua wrth ochr unhryw logo arall mewn unhryw fenter arall.
-Mae natur gynrychioladol ProLingua yn cwympo ar ei haeodau ar amod o gydraddoldeb llwyr ac nid oes ganddi unhryw bwrpas arall heblaw am gyflawniad cyflawn o’i hamcanion pan yn trafod gyda sefydliadau cyhoeddus.